Cwnstabl Heddlu Alena Moulton
Rwy'n credu bod fy ngallu i siarad â phobl o gefndiroedd gwahanol wedi fy helpu yn fy rôl fel swyddog heddlu.
Clywch PC Alena Moulton o Heddlu Swydd Derbyyn trafod sut y symudodd o addysgu i blismona, beth mae hi’n ei gael fwyaf heriol am ei rôl blismona a sut brofiad yw bod yn swyddog du, benywaidd ar y llu.
Dywedwch ychydig wrthym am eich swyddi cyn i chi ymuno â'r heddlu?
Cyn ymuno â’r heddlu, roeddwn i’n gweithio ym myd addysg fel Pennaeth Blwyddyn mewn ysgol uwchradd ac roeddwn i hefyd yn brif hyfforddwr CPD Merched Stoke City.
Fe ddechreuoch chi blismona trwy'r llwybr Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd – ym mha bwnc oedd eich gradd?
Graddiais o'r brifysgol gyda gradd mewn Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth yn 2012.
Pa sgiliau trosglwyddadwy ydych chi’n credu eich bod wedi dod â nhw i’ch rôl fel swyddog heddlu?
Mae gallu siarad ag amrywiaeth o bobl yn sgil werthfawr yn yr heddlu, rwy’n meddwl bod fy ngallu i siarad â phobl o gefndiroedd gwahanol wedi fy helpu yn fy rôl fel swyddog heddlu. Ac mae fy mhrofiad blaenorol o weithio mewn ysgolion wedi fy helpu i gael gwybodaeth am y prosesau a'r cymorth y gall ysgolion eu cynnig.
Ydych chi'n teimlo eich bod yn rhan o dîm cefnogol?
Mae bod yn rhan o'r tîm fel estyniad o fy nheulu, rydyn ni'n agos iawn. Pan ydych chi'n treulio cymaint o amser gyda'ch gilydd ac yn mynd i rai tasgau nad ydyn nhw'n arbennig o braf, mae'n bwysig ein bod ni'n gefnogol a bod pawb yn cyd-dynnu.
Sut mae'ch ffrindiau a’ch teulu yn teimlo am y ffaith eich bod yn swyddog heddlu?
Mae pobl dw i'n eu hadnabod wedi cael profiadau negyddol gyda'r heddlu, felly mae'n naturiol eu bod nhw ychydig yn betrusgar am y ffaith fy mod yn ymuno. Fel gydag unrhyw aelod o'r teulu, roedden nhw'n poeni am y mathau o dasgau y byddwn i'n ymwneud â nhw. Nawr fy mod i wedi bod yn swyddog heddlu ers dwy flynedd, maen nhw'n fwy cyfforddus â'r peth.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fenywod eraill sy'n ystyried ymuno â'r heddlu ond sy'n poeni efallai nad ydyn nhw'n ffitio'r mowld?
Mae rôl at ddant pawb ac ar ôl gweithio ym myd addysg am gymaint o amser, dw i'n teimlo o'r diwedd mai dyma'r swydd i mi. Mae'n anodd, gall y dyddiau fod yn hir, ond mae'r swydd mor werth chweil.
Eisiau clywed gan swyddogion eraill sy'n gwasanaethu?
Archwiliostraeon swyddogion eraill am pam y gwnaethant ymuno â'r heddlu a beth mae plismona yn ei olygu iddyn nhw.