Gwobrau Plismona
Mae dod yn swyddog heddlu'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich cymuned. A byddwch chi'n ennill wrth ddysgu. Dysgu rhagor am fanteision plismona.
Gall gyrfa ym maes plismona fod yn werth chweil, i chi fel unigolyn a hefyd i’r cymunedau y byddwch yn eu gwasanaethu.
Er mwyn gallu cynrychioli ac ymgysylltu â’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, mae’n hanfodol bod ein gwasanaeth heddlu yn gynhwysol ac yn amrywiol. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn bod pobl o bob cefndir, oedran, ethnigrwydd, ffydd, gallu, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol, yn gwneud cais i ymuno â’r heddlu. Dysgu rhagor am sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth ym maes plismona.
Swyddog gwrywaidd a benywaidd mewn iwnifform yr heddlu'n cerdded i lawr stryd yn siarad.
Dyma'r unig swydd dw i erioed wedi bod am ei gwneud.
Swyddog gwrywaidd y tu mewn i orsaf yr heddlu mewn iwnifform yn siarad â'r camera.
Felly o oedran cynnar iawn, oddeutu oedran yr ysgol gynradd, ysgol uwchradd, dyma'r unig beth sydd wedi apelio ataf i erioed.
Mae swyddogion gwrywaidd a benywaidd yn parhau i gerdded i lawr y stryd.
Mae cymaint o wahanol rolau o fewn yr heddlu.
Swyddog gwrywaidd y tu mewn i orsaf yr heddlu mewn iwnifform yn siarad â'r camera.
A gallwch chi wneud eich gyrfa lawn, p'un a yw'n dri deg mlynedd neu bum mlynedd ar hugain a dal heb wneud pob rôl o fewn yr heddlu.
Mae swyddog gwrywaidd yn gyrru car heddlu.
Nid yn unig mae'n heriol yn feddyliol ac yn heriol yn gorfforol, y prif beth yw ei fod yn rhoi boddhad.
Swyddog gwrywaidd y tu mewn i orsaf yr heddlu mewn iwnifform yn siarad â'r camera.
Dyma'r un swydd y gallwch chi wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Swyddogion gwrywaidd a benywaidd yn cerdded y tu allan i Orsaf Heddlu Banbury.
Mae eich moeseg gwaith a phopeth rydych chi'n ei wneud yn cael effaith ar y gymuned, y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw, y sefydliad.
Swyddog gwrywaidd y tu mewn i orsaf yr heddlu mewn iwnifform yn siarad â'r camera.
Y ffaith fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth ym mywyd rhywun, yn y pen draw dyna sy'n fy nghadw i fynd.
Yr Heddlu: Logo Gwnewch Eich Gwahaniaeth
Gallwch hefyd ddarllen ein cyfweliad ag Yasser i ddysgu rhagor am ei yrfa blismona a sut mae’n gweld ei hil fel agwedd gadarnhaol.
Mae sawl ffordd o ymuno â’r heddlu, yn dibynnu ar eich gwaith, eich bywyd a’ch profiad addysgol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant a phrofiad.
Ffyrdd i mewn i blismona