Cwnstabl Heddlu Emma Donbavand
Fe wnes i sylweddoli'n gyflym nad oedd dwy swydd yr un peth ac mae wedi dod yn brofiad heb ei ail.
Fe wnaeth gwirfoddolwr a ymunodd â Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) fel Cwnstabl Gwirfoddol yn 2020 mewid ei rôl yn AD mewn banc i ddod yn un o swyddogion heddlu newydd y llu ar y rheng flaen.
Fe wnaeth Emma Donbavand ymuno â Chwnstabliaeth Gwirfoddol GMP i "drochi blaen ei thraed yn y dŵr" cyn gwneud penderfyniad i wneud cais i fod yn swyddog llawn amser ac, ar ôl y miloedd o oriau mae hi wedi'u rhoi i'r heddlu, fe'i derbyniwyd i fod yn swyddog heddlu yn Rhagfyr 2021.
Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn swyddogion heddlu gwirfoddol rhan-amser sydd â’r un pwerau, iwnifform ac offer â swyddogion arferol ac sy'n gweithio ochr yn ochr â swyddogion rheng flaen yn ogystal â staff heddlu i helpu i wneud Manceinion Fwyaf yn lle mwy diogel i fod ynddo.
Roedd y ferch 22 oed yn gweithio fel cynghorydd AD i Natwest pan benderfynodd ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol ym mis Mehefin 2020. Roedd hi am wneud cymaint o oriau nes iddi ymuno â thîm ymateb o swyddogion yn Tameside - gan gydbwyso dwy swydd yn wirfoddol bron. Mae rhai o’i huchafbwyntiau’n cynnwys cael dyrchafiad i fod yn Arweinydd Tîm Gwirfoddolwyr, cynorthwyo gyda’r ymgyrch blismona enfawr ar gyfer Parklife 2021 a neidio i mewn i afon i achub bywyd dyn.
Meddai: “Ar ôl ymuno a hyfforddi fel Cwnstabl Gwirfoddol ym mis Mehefin 2020, gwnes i ychydig dros 2,250 o oriau gwirfoddol. Weithiau byddwn i'ngorffen fy swydd bob dydd yn y banc am 5pm ac yn mynd yn syth i weithio gydag un o'r timau ymateb yn Tameside. Roeddwn i wrth fy modd ac mae pawb yn yr ardal wedi rhoi croeso mawr i mi.”
Cyn dod yn gynghorydd AD i fanc, roedd Emma am fynd i theatr gerdd ond chwalwyd ei breuddwydion ar ôl iddi dorri ei choes mewn dau le ar drampolîn. Mae hi'n dal i lwyddo i wneud rhai sioeau yn ei hamser sbâr serch hynny.
Ychwanegodd hi: “Pan ymunais â’r Gwirfoddolwyr, sylweddolais yn gyflym nad oedd dwy dasg yr un peth ac mae wedi dod yn brofiad heb ei ail. Dyna pam y gwnes i gais i ymuno fel swyddog heddlu llawn amser."
Mae Emma wedi ymuno â GMP o dan Brentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu ac mae hi ar hyn o bryd wrthi'n gwneud ei hyfforddiant.
Eisiau clywed gan swyddogion eraill sy'n gwasanaethu?
Archwilio straeon swyddogion eraill am pam y gwnaethant ymuno â’r heddlu a beth mae plismona yn ei olygu iddyn nhw.