Rhingyll Ibraahim Russul Saib
Mae gan y Met dros 186 o swyddi gwahanol yn y sefydliad. Os nad ydych yn hoffi un swydd, gallwch ddewis un arall!
Mae’r Rhingyll Heddlu Metropolitanaidd Ibraahim Russul Saib yn sôn am yr hyfforddiant a roddir i swyddogion i’w harfogi i blismona digwyddiadau ar raddfa fawr, ei uchafbwyntiau allweddol o blismona Carnifal Notting Hill a’r hyn a wnaeth iddo fod am fod yn swyddog heddlu.
Pa fath o ymatebion ydych chi'n eu cael gan y gymuned leol yng Ngharnifal Notting Hill?
Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion yn gadarnhaol gan y gymuned sy'n deall ein bod ni yno i'w cadw'n ddiogel a bod gennym ni waith i'w wneud.
Pam ydych chi’n credu ei bod hi’n bwysig i’r Met gael presenoldeb amlwg mewn digwyddiadau fel hyn?
Ar ddiwedd y dydd, mae'n ddigwyddiad ar raddfa fawr a'r ail garnifal stryd mwyaf yn y byd. Mae gennym ddyletswydd gofal i’r cyhoedd a phartïwyr i’w cadw’n ddiogel a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth, a gwnawn hynny drwy weithio mewn partneriaeth â’r trefnwyr a’r gymuned leol.
Pa fath o ddigwyddiadau y mae eich tîm wedi gorfod delio â nhw?
Dw i wedi bod yn plismona Carnifal Notting Hill ers 2010 mewn amrywiaeth o rolau. Rydym yn delio â phopeth o gefnogi pobl sydd am ddathlu a dod o hyd i blant coll i argyfyngau meddygol yng nghanol torf drwchus lle bu’n rhaid i ni eu cario allan ar stretsier, gan wthio drwy’r dorf i gyrraedd y criw ambiwlans.
Sut mae swyddogion yn cael eu hyfforddi i ddelio â digwyddiadau fel y rhain?
Mae swyddogion trefn gyhoeddus yn cael hyfforddiant bob blwyddyn i ddelio â'r mathau hyn o ddigwyddiadau ar ein safle hyfforddi yn Gravesend. Byddai swyddogion y Grŵp Cymorth Tiriogaethol (TSG) fel arfer yn cael hyfforddiant bob 5 wythnos ar sut i wneud popeth o wacáu anafusion i ddelio ag unigolion treisgar a thactegau o amgylch torfeydd gelyniaethus.
Beth wnaeth i chi ymuno â'r heddlu?
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn gweithio i'r gwasanaethau brys. Cadarnhawyd fy niddordeb yn y brifysgol pan astudiais Droseddeg a Seicoleg, lle roedd rhai o'm modiwlau'n cael eu rhedeg gan swyddogion presennol yr heddlu.
Pa lwybr mynediad wnaethoch chi ymuno drwyddo?
Fe wnes i ymuno yn 2008 drwy'r hyn y byddai llawer yn ei alw'n llwybr traddodiadol (IPLDP). Y peth gwych yw bod nifer o lwybrau mynediad gwahanol i blismona nawr, gan ei gwneud hi’n haws i bobl o bob cefndir gwahanol ddod o hyd i lwybr sy’n addas iddyn nhw.
Beth yw uchafbwynt eich gyrfa hyd yn hyn?
Dw i wedi bod yn ffodus iawn hyd yn hyn gan fy mod wedi gweithio gyda thimau gwych a bob amser wedi cael goruchwylwyr gwych, a dyna pam yr arhosais i fynd am ddyrchafiad gan eu bod yn gosod y bar yn uchel. Dw i wedi gweithio ar dîm rhagweithiol dillad plaen yn San Steffan ar ôl fy nhîm ymateb cychwynnol, cyn symud i’r TSG am bron i 8 mlynedd nes i mi gael dyrchafiad yn 2020. Dw in argymell ymuno â’r TSG i bawb gan ei fod wedi rhoi sgiliau gwych i mi i’m cynorthwyo am weddill fy ngyrfa – yr uchafbwynt i mi o bell ffordd!
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried gwneud cais i ymuno â'r Met?
Er ei bod hi’n wir bod dim byd yn curo arestiad mawr, yn arbennig pan ydych chi’n dal rhywun yn y weithred…y cyngor gorau fyddwn i’n ei roi i unrhyw un ydy’r un cyngor dw i’n cofio ei glywed pan es i ddiwrnod agored i’r Met – “Mae gan y Met oddeutu 186 o swyddi gwahanol (mwy nawr mae’n debygol) o fewn y sefydliad, os nad ydych chi’n hoffi un swydd, dewiswch un arall.”
Diddordeb mewn ymuno â'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd?
Ewch i'w gwefan Gyrfaoedd i weld pa rolau sydd ganddynt ar gael ar hyn o bryd.
Gyrfaoedd y gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd