Prif Arolygydd Lee Broadstock
Mae pobl yn bod nhw eu hunain yn dod â mwy i'r swydd.
Mae’r Prif Arolygydd Lee Broadstock yn swyddog Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) sy’n gweithio yn Tameside ar ymateb ond sydd hefyd yn gwirfoddoli cryn dipyn o’i amser sbâr trwy wirfoddoli fel llais cenedlaethol ar gyfer swyddogion a staff LGBTQ+. Mae'n dweud bod plismona yn "yrfa i unrhyw un" ac "na ddylai neb guddio pwy ydyn nhw".
Roedd Lee yn gwybod yn bump oed ei fod am fod yn swyddog heddlu ond roedd yn poeni am enw da’r heddlu felly ymunodd fel Cwnstabl Gwirfoddol am dair blynedd ymlaen llaw.
Dyna pryd y newidiodd Lee ei feddwl a sylweddoli bod plismona'n yrfa i unrhyw un. Dywedodd: “Roedd plismona bob amser yn rhywbeth roeddwn i am ei wneud - rwy’n cofio bod yn bump oed a phan ofynnodd yr athrawes i ni dynnu llun o’r hyn yr oeddem am ei wneud pan oeddem yn tyfu i fyny, tynnais lun o swyddog heddlu.
“Roedd gan blismona enw gwael yn ôl bryd hynny am nad oedd yn groesawgar i wahaniaethau, ond newidiais fy meddwl yn llwyr ar ôl ymuno fel Cwnstabl Gwirfoddol a phenderfynais wneud cais i fod yn swyddog cyflogedig yn ôl yn 2005.”
Mae Manceinion yn agos at galon y dyn 46 oed ar ôl iddo adael cartref i fynd i Manchester Pride. Dywedodd Lee: “Fe ddes i i Manchester Pride flynyddoedd yn ôl a byth wedi dychwelyd adref oherwydd ofnau ynglŷn â phwy oeddwn i ond mae’r llanw wedi troi a dw i bob amser wedi teimlo fy mod yn cael cefnogaeth wirioneddol gan GMP.
“Mae pobl yn bod nhw eu hunain yn dod â mwy i’r swydd sy’n golygu y gallaf wneud y swydd gymaint yn well oherwydd dydw i ddim yn meddwl am guddio rhywbeth. Ni ddylai neb guddio pwy ydyn nhw. Dyna pam roeddwn i hefyd am wirfoddoli ar gyfer y rhwydwaith LGBTQ+ gan fy mod eisiau i eraill deimlo'r un peth.
“Mae’r rôl yn wirfoddol ar ben fy swydd bob dydd ac rwy’n falch o fod yn llais cynrychioliadol ar gyfer swyddogion, staff a gwirfoddolwyr LGTBQ+ yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n golygu fy mod i'n siarad â rhanddeiliaid ac yn ceisio parhau i feithrin hyder ac ymddiriedaeth mewn plismona.
“Yn ôl yn y 90au a dechrau’r 2000au, doedd plismona ddim yn cael ei weld fel rhywbeth cefnogol yng nghymunedau a sefydliadau LGTBQ+ ond nawr rydyn ni mewn sefyllfa lle mae pobl yn dod atom gymaint mwy ac yn wir ymgysylltu â ni.
“Drwy fod yn y rhwydwaith, dw i wedi bod yn ymwneud â llawer o elusennau ac rydyn ni wir wedi gweithio i newid y canfyddiad o blismona cymunedol. Rwyf yn wir gredu ein bod yn gwasanaethu’r gymuned LGBTQ gymaint yn well nag o’r blaen ac rwy’n credu bod sefydliadau ac elusennau wir yn dechrau sylweddoli hynny a gweithio mewn partneriaeth â ni.
“Roedd yr holl waith a wnaethom yn ymwneud â throseddau erchyll Reynhard Sinaga ym Manceinion yn enghraifft o hynny. Fe fuom yn gweithio gydag elusennau LGBTQ+ ac yn y diwedd roedd yn un o'r ymgyrchoedd mwyaf a welodd GMP erioed a arweiniodd at ei garcharu am gyfnod hir iawn."
Ar wahân i'w rôl wirfoddoli, mae Lee yn gweithio ar ymateb ac ymgyrchoedd yn Tameside ac mae hefyd yn Gomander Arfau Tanio Tactegol. Mae hyd yn oed wedi gweithio yn y tîm a oedd yn arwain yr helfa ar gyfer Dale Cregan a laddodd ddau o swyddogion Heddlu Manceinion Fwyaf yn 2012.
Ychwanegodd: "Bod yn swyddog heddlu yw'r swydd orau i mi ei chael erioed - gallwch chi wir wneud gwahaniaeth cadarnhaol enfawr i gymunedau a does dim llawer o swyddi lle gallwch chi newid bywydau mewn gwirionedd."
Eisiau clywed gan swyddogion eraill sy'n gwasanaethu?
Archwilio straeon swyddogion eraill am pam y gwnaethant ymuno â’r heddlu a beth mae plismona’n ei olygu iddyn nhw.