Rhingyll Lucy Bearman
Dw i wedi canfod bod plismona yn agored iawn i ba bynnag gefndir amrywiol rydych chi'n dod ohono.
Mae Rhingyll Lucy Bearman yn un o sêr ein hysbyseb teledu recriwtio heddlu a lansiwyd ym mis Medi 2020. Yma, mae’n dweud wrthym am ei phrofiadau fel swyddog heddlu a pham y byddai’n annog menywod eraill i ymuno â’r heddlu.
Beth wnaeth i chi fod am fod yn swyddog heddlu?
Fe wnes i ddechrau gweithio i'r heddlu ar y dechrau fel aelod o staff yr heddlu pan oeddwn i'n 18 oed. Roeddwn i’n gynorthwyydd desg wasanaeth, ond hyd yn oed o’r dderbynfa, gwelais â’m llygaid fy hun pa waith anhygoel yr oedd y swyddogion heddlu yn ei wneud a sut yr roedd Heddlu Essex fel teulu estynedig. Roeddwn i’n gallu gweld cymaint yr oedd y swyddogion yn caru eu swyddi a sut roedd helpu eraill wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i gymdeithas a’r gymuned rydyn ni’n byw ynddi. Roeddwn i am allu chwarae rhan yn y darlun hwnnw.
Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am eich swydd?
Y cyfle i brofi pethau na fyddech chi byth yn gallu rhoi cynnig arnynt yn unman arall! Dw i wedi bod lan yn hofrennydd yr heddlu, wedi aduno pobl gyda'u plant coll, wedi treulio amser gyda NYPD, wedi bod yn ysgwydd i grio arni i gynifer, wedi rhydio allan i'r môr i lusgo rhywun yn ôl i mewn a oedd mewn gofid, wedi siarad â phobl i lawr o ceisio neidio oddi ar adeilad uchel, wedi ennill sgiliau ymateb a gyrru wrth ymlid, wedi dod yn Swyddog Trefn Gyhoeddus, wedi cael dyrchafiad yn Arolygydd – mae'r rhestr yn llythrennol yn ddiddiwedd!
Unrhyw uchafbwyntiau gyrfa y gallwch chi feddwl amdanynt ble roeddech chi'n teimlo eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun?
Mae un ferch fach y bydda i'n ei chofio am byth. Roedd hi tua 5 oed ac wedi byw y rhan fwyaf o’i hoes mewn tŷ lle roedd cam-drin domestig a thrais. Roedd pethau wedi dod mor beryglus, rwy’n credu y byddai hi a’i mam wedi cael eu hanafu’n ddifrifol pe bydden nhw wedi aros yno. Es â nhw i orsaf yr heddlu a threulio amser yn ceisio dod o hyd i lety arall iddyn nhw er mwyn sicrhau eu diogelwch. Wna i byth anghofio’r olwg ar wyneb y ferch fach honno pan ddaethon ni o hyd i rywle arall iddyn nhw fyw – fe edrychodd hi arna i gyda’r fath hapusrwydd a chariad yn ei llygaid a chofleidio fi mor dynn. Fe wnaeth hi hyd yn oed ddod â llun i orsaf yr heddlu i mi yr oedd hi wedi'i dynnu ei hun i ddweud diolch - bydda i bob amser yn ei gadw yn fy hambwrdd gwaith papur i'm hatgoffa amdani hi. Roeddwn i wir yn teimlo bod gan y ferch fach obaith yn ei bywyd am y tro cyntaf erioed.
Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich rhywedd wedi eich dal yn ôl yn eich gyrfa heddlu?
Nac ydw, dw i wir wedi canfod bod plismona'n agored iawn i ba bynnag gefndir amrywiol rydych chi'n dod ohono.
Beth fyddech chi'n ei ddweud yw'r prif rwystrau sy'n atal menywod rhag gwneud cais?
Dw i’n profi ‘syndrom dynwaredwr’ weithiau, sef lle nad ydych chi’n credu eich bod chi’n ddigon da neu’n credu na ddylech chi fod lle rydych chi. Dw i'n poeni am hynny bob dydd. Dw i'n credu bod llawer o fenywod yn dioddef o hynny. Felly dw i'n credu mai'r rhwystr mwyaf yw'r hyder - mae angen i fenywod ddeall hynny mewn gwirionedd, mae eich gallu yno ac rydych chi'n gallu gwneud y swydd.
Mae rhai menywod yn poeni nad ydyn nhw'n ddigon cryf yn gorfforol - ydych chi wedi dod o hyd i hyn?
Roeddwn i’n poeni am y prawf ffitrwydd cyntaf ond dw i wastad wedi gallu cwblhau’r hyfforddiant. Ar hyfforddiant trefn gyhoeddus, lle rydych chi mewn dillad terfysg, rydyn ni bob amser yn dal y llinell gyda'n gilydd ac yn mynd argyflymder y person arafaf i wneud yn siŵr bod y llinell yn cael ei chadw a bod y tîm cyfan yn cefnogi ei gilydd.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fenywod a allai fod yn poeni bod plismona yn fwy o 'swydd dyn'?
Byddwn i'n dweud nad ydw i erioed wedi gweithio gydag unrhyw ddynion sydd wedi gwneud i mi deimlo'n israddol. Mewn gwirionedd, dydy fy holl gydweithwyr gwrywaidd ddim wedi gwneud dim byd ond fy nghefnogi, a'm gwthio a'm hyrwyddo. Mae llawer o’r gwaith datblygu rhywedd dw i'n ei wneud yn ymwneud â threfn gyhoeddus a cheisio gwella nifer y menywod sy’n gweithio ynddi. Ac mewn gwirionedd yr arweinwyr trefn gyhoeddus gwrywaidd sy'n gwthio am hynny. Felly byddwn i'n dweud wrth fenywod, peidiwch â meddwl bod plismona yn fwy i ddynion - mewn gwirionedd mae cymaint o gefnogaeth ac arweiniad ar gael.
A allwch ddweud ychydig mwy wrthym am y prosiectau dilyniant rhywedd rydych wedi bod yn rhan ohonynt?
Dw i wedi gweithio gydag uwch swyddogion ar ddiwrnodau tan-gynrychiolaeth, i gefnogi swyddogion benywaidd i gael dyrchafiad. Dw i hefyd wedi gweithio gyda'r rheolaeth arfau tanio i geisio cynyddu nifer y menywod ym maes arfau tanio. Ac ar hyn o bryd dw i’n gweithio ar y fforwm datblygu arweinyddiaeth menywod – rydyn ni'n helpu menywod lle gallwn ni bob dydd ac rydyn ni'n cynnal digwyddiadau i fenywod ddod i glywed menywod ysbrydoledig eraill yn siarad a’u helpu i ddeall y gallan nhw fynd yn uwch os ydyn nhw'n dymuno.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl sy'n ystyried ymuno â'r heddlu?
Os ydych chi am fod yn swyddog heddlu yna gwnewch hynny! Fe welwch y cydweithwyr mwyaf anhygoel sy'n dod fel teulu. Mae’r gefnogaeth a’r arweiniad a gewch chi gan bawb, gan gynnwys goruchwylwyr a’r rhwydweithiau cymorth, yn anhygoel a byddan nhw'n eich helpu i dyfu. Does dim ots pa rywedd ydych chi, pa mor dal ydych chi, o ba gefndir rydych chi'n dod neu pwy ydych chi - cyn belled â'ch bod chi'n malio, y gallwch chi ddangos empathi a'ch bod â'r awydd i wneud gwahaniaeth yn y gymuned, byddwch chi'n gwneud y gwaith yn rhyfeddol.
Gwylio Lucy ar waith yn ein hysbyseb teledu
A yw stori Lucy wedi'ch ysbrydoli i ymuno â'r heddlu? Dysgu rhagor am fanteision plismona.