Cwnstabl Heddlu Sanjeev Bhatoe
Mae plismona wedi dod yn bell, ond rydyn ni'n dal i fod angen mwy o bobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i helpu i ysgogi newid cadarnhaol.
Mae Sanjeev Bhatoe, Cwnstabl Heddlu a Chydlynydd Gweithredu Cadarnhaol gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn sôn am ei yrfa ym maes plismona, yr hyn y mae’n ei garu am ei rôl a pham mae amrywiaeth mor bwysig yn y llu.
Beth wnaeth i chi ddewis gyrfa mewn plismona?
Cefais fy magu mewn tref fach o’r enw Grimsby a doedd gen i ddim modelau rôl nac ysbrydoliaeth, felly gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth i'w wneud ond roedd yr heddlu bob amser wedi fy nghyfareddu i. Roedd gen i ychydig o fusnesau ond ar ôl ychydig o flynyddoedd, fe wnes i eu gwerthu a phenderfynu dilyn gyrfa ym maes plismona. Dechreuais fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yna ymunais â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2017.
Pa bryderon oedd gennych am ddod yn swyddog heddlu?
Roeddwn i'n bryderus i ddechrau am fod yn Asiaidd ac yn meddwl tybed sut brofiad fyddai bod yn swyddog lleiafrifol. Roeddwn i'n poeni sut y byddwn i'n ffitio i mewn ac a fyddwn i'n wynebu heriau.
Beth oedd barn eich teulu a'ch ffrindiau?
I ddechrau, roedd fy nheulu'n pryderu am yr agwedd beryglus ar y swydd. Ond maen nhw’n gwybod pa fath o berson ydw i, felly ar ôl peth meddwl, fe ddywedon nhw ‘A dweud y gwir, dyma fyddai’r swydd berffaith ichi, Sanj. Gyda’ch sgiliau a’ch galluoedd, byddech chi’n gwneud swyddog gwych.’ Maen nhw’n gwybod y gallaf siarad dros Loegr hefyd – sy’n helpu! Rwy'n briod gyda thri bachgen. Mae'r plant wrth eu bodd bod eu tad yn swyddog heddlu ac yn falch iawn ohonof i.
Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am eich swydd?
Rwyf wrth fy modd â’r ffaith fy mod yn cael cyfarfod â phobl o bob cefndir a fy mod i mewn sefyllfa i helpu pobl mewn angen. Weithiau, mae’r bobl hyn ar y pwynt gwaethaf yn eu bywydau, a gallaf fynd adref gan wybod fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun, boed hynny trwy ymyrryd mewn sefyllfa neu ddim ond rhai geiriau o anogaeth.
Unrhyw uchafbwyntiau gyrfa lle roeddech chi'n teimlo eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?
Un o uchafbwyntiau fy ngyrfa oedd derbyn Gwobr y Prif Gwnstabl a gwobr gan y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol am geisio achub bywyd dyn trwy wneud CPR am 40 munud. Moment allweddol arall oedd cael fy ngofyn i serennu yn un o fideos On the Beat’ ar gyfer y Swyddfa Gartref – roedd fy nheulu i gyd mor falch!
Pam nad yw pobl o’ch cefndir diwylliannol fel arfer yn ymuno â’r heddlu?
Nid yw bod yn swyddog heddlu'n cael ei ystyried yn yrfa yn yr un golau â’r proffesiynau eraill fel meddyg, cyfreithiwr, cyfrifydd, deintydd – dyma’r swyddi y mae’r rhan fwyaf o rieni Asiaidd am i’w plant eu dewis. Ond rwy'n credu bod amseroedd yn newid a bod gyrfa gyda'r heddlu'n dod yn fwy adnabyddus fel gyrfa barchus a phroffesiynol.
Pa fanteision y mae eich cefndir yn eu cynnig i'ch rôl yn eich barn chi?
Mae bod o fy nghefndir i ac yn ddwyieithog (Pwnjabeg) wedi bod o gymorth mawr i mi yn y rôl gan fy mod i'n gallu rhyngweithio â phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Pam ydych chi'n teimlo bod mwy o amrywiaeth yng ngwasanaeth yr heddlu yn bwysig?
Mae amrywiaeth o fewn plismona'n bwysig iawn. Mae'r gwasanaeth angen sgiliau a galluoedd pobl o bob cefndir gwahanol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae angen i ni adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a dathlu amrywiaeth meddwl hefyd.
Sut ydych chi'n gweld eich gyrfa ym maes plismona yn dod yn ei blaen?
Rwy’n gobeithio dringo’r rhengoedd yn y dyfodol agos a dod yn swyddog rheng uchel fel y galla i arwain newid o fewn y gwasanaeth.
Beth fyddech chi'n ei ddweud i annog eraill o gymunedau ethnig i ymuno â'r heddlu?
Rwyf wedi siarad â llawer o bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac maent yn bryderus ynghylch ymuno â’r heddlu, boed hynny oherwydd camsyniadau neu’r wasg negyddol. Ond mae plismona wedi dod yn bell. Rydym yn dal i fod angen mwy o bobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i helpu i ysgogi newid cadarnhaol felly byddwn i'n dweud ei bod yn swydd wych gyda rhagolygon gyrfa gwych - mae fel dim swydd arall, felly ewch amdani.
Archwilio straeon swyddogion eraill sy’n gwasanaethu am pam y gwnaethant ymuno â’r heddlu a beth mae plismona yn ei olygu iddyn nhw.