Rhingyll Taranvir Gill
Gwelais y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwn i ei wneud, gan chwalu rhwystrau diwylliannol rhwng yr heddlu a'r cyhoedd.
Mae Rhingyll Taranvir Gill, aka Taz, wedi bod yn swyddog heddlu yn Swydd Hertford ers wyth mlynedd. Am lawer o’i yrfa blismona, mae Taz wedi gweithio fel hyfforddwr a mentor Gweithredu Cadarnhaol, gan gefnogi ymgeiswyr mewnol ac allanol gyda’u taith i ymuno â HeddluSwydd Hertford.
Wedi'i eni yng Nghaerlŷr, symudodd Taz i Swydd Hertford pan oedd yn yr ysgol gynradd ac mae'n dweud mai anaml y gwelwyd Sîc arall yn y gymuned. Mae’r plismon rheng flaen 28 oed yn cofio ei brofiad gwaith ysgol uwchradd yn 2010 yn ‘reidio’ gyda swyddogion heddlu lleol fel trobwynt pan oedd yn gallu helpu swyddogion i gynorthwyo dioddefwr troseddu trwy gamu i mewn i gyfieithu, gan siarad Pwnjabeg.
“Gwelais yn y fan a’r lle wahaniaeth gwirioneddol arall y gallwn i ei wneud, gan chwalu rhwystrau diwylliannol rhwng yr heddlu a’r cyhoedd.”
Parhaodd Taz: “Ces i fy magu gydag iwnifformau, mam yn gweithio yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ewythrod a chefndryd yn y gwasanaeth tân a’r heddlu, felly roedd gwasanaeth cyhoeddus yn gam naturiol i mi – gan helpu pobl ar eu cyfnodau gwaethaf. Ond dw i'n gwybod bod rhwystrau diwylliannol i bobl eraill o fy nghefndir, Siciaid, pobl Dduon, Mwslemiaid, Hindwiaid, a nodweddion gwarchodedig eraill, mae rhwystrau diwylliannol. Dw i am estyn allan a gwneud gwahaniaeth trwy gael y bobl iawn i mewn i’n heddlu.”
Mae llawer o heddluoedd yn cynnig mentrau gweithredu cadarnhaol, megis mentora a sesiynau ymgysylltu ar-lein, i gefnogi pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn benodol i wneud cais. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae gwasanaeth heddlu Swydd Hertford wedi cynnig mentoriaid trwy eu tîm Gweithredu Cadarnhaol. Fel aelod allweddol o’r tîm hwn, mae Taz yn helpu i gefnogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn creu gweithlu mwy amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Taz hefyd yw Cadeirydd Dros Dro Cymdeithas Siciaid Heddlu Swydd Hertford, sydd wedi ei weld yn rhoi sgyrsiau i fyfyrwyr mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws Swydd Hertford. Mae ysbrydoli pobl i ystyried gyrfa blismona yn rhan allweddol o’r hyn sy’n gwneud rôl Taz mor werth chweil.
“Rwy’n angerddol iawn am hyfforddi a mentora. Does dim byd gwell na bod yn rhan o daith myfyriwr i swydd eu breuddwydion, dw i wrth fy modd. A dw i'n gwybod y bydd yn gwella'r sefydliad yn y tymor hir hefyd. Dod â’r bobl orau i mewn, mae’n rôl dw i’n ei chymryd yn bersonol.
“Un o’r rhwystrau diwylliannol mwyaf yw’r ffaith nad yw plismona’n cael ei ystyried yn broffesiwn â chymhwyster. Weithiau dw i'n siarad â rhieni pobl dw i’n eu mentora sydd am i’w mab neu ferch fod yn feddyg neu’n optegydd, a dw i’n esbonio’r cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad mewn plismona. Rwy’n meddwl y bydd y llwybrau mynediad PEQF newydd lle mae swyddogion heddlu yn ennill graddau cyn ymuno neu’n gweithio i ennill gradd wedi’i hariannu yn ystod eu cyfnod prawf yn chwalu’r rhwystr hwnnw.”
Dywed Taz fod mwy o bobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill bellach yn sôn am fod yn rhan o newid cymdeithasol mwy fel cymhelliant i ymuno â phlismona.
“Dw i’n credu bod hyn mor bwysig. Maen nhw am fod y newid mewn cymdeithas a'i helpu i ddigwydd. Mae'r ymgeiswyr hynny'n hynod bwysig i'r sefydliad gan ei fod yn hyrwyddo nid yn unig amrywiaeth mewn cymdeithas, ond amrywiaeth meddwl hefyd.
“Pan ydw i’n ysgwyd llaw fy mentorai wrth eu hardystiad, mae’n gymaint o bleser bod yn rhan o’r gamp wych honno a dw i’n caru hynny.”