Swyddog heddlu dan hyfforddiant Tommy Wright
Roeddwn i'n falch o wisgo'r crys a nawr dw i''n falch o wisgo'r iwnifform.
Bydd Tommy Wright, sy’n 35 oed, yn wyneb cyfarwydd i lawer o gefnogwyr pêl-droed, ar ôl chwarae pêl-droed proffesiynol ers 2002 i glybiau gan gynnwys Leicester City, Blackpool ac Aberdeen cyn mynd ymlaen i fwynhau gyrfa hyfforddi a rheoli lwyddiannus.
Roedd yn hyfforddi Mansfield Town pan ddaliodd hysbyseb recriwtio'r heddlu ei lygad. Ar ôl cyflawni popeth yr oedd wedi bwriadu ei wneud ym maes pêl-droed, roedd yn barod am her newydd lle gallai wneud defnydd da o’i sgiliau fel chwaraewr tîm, cyfathrebwr a rheolwr pobl, a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Bron i 20 mlynedd ar ôl ei ymddangosiad pêl-droed cyntaf gyda Leicester City, mae bellach yn hynod falch o fod yn cynrychioli Heddlu Swydd Gaerlŷr. Gwrandewch arno'n siarad am ei yrfa bêl-droed, yr hyn y mae’n ei fwynhau fwyaf am ei symudiad i faes plismona a barn ei Brif Gwnstabl ar ba mor werthfawr y gall y sgiliau bywyd a’r profiad y mae pobl fel Tommy yn eu cynnig i blismona fod.