Cwnstabl Heddlu Yasser Zubair
Mae’n swydd lle rydych chi’n teimlo eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth i’r gymuned ac yn helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Cyn belled ag y gall gofio, roedd Yasser am fod yn swyddog heddlu. Dechreuodd ei yrfa gyda Heddlu Manceinion Fwyaf, gan weithio mewn rolau amrywiol, gan gynnwys bod yn rhan o'r tîm cyntaf sy'n delio â throseddwyr terfysgol. 18 mlynedd yn ddiweddarach, mae bellach yn gweithio yn y Tîm Ymgysylltu Gweithredu Cadarnhaol gyda Heddlu Dyffryn Tafwys, sy'n ymroddedig i gadw, datblygu a recriwtio pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
O gefndir Pacistanaidd, mae’n dweud wrthym beth mae’n ei fwynhau am blismona, yn rhoi ei farn i ni ar sut mae ei hil yn effeithio ar ei rôl ac yn egluro pam y byddai’n annog pobl eraill o gymunedau lleiafrifoedd ethnig i ystyried ymuno â’r heddlu.
C. Beth ydych chi'n ei garu am fod yn swyddog heddlu?
Yasser: Nid yw dau ddiwrnod byth yr un fath. Rydyn ni'n gweithio i leihau troseddu ac o fewn hyn, rydyn ni'n delio â phobl o bob cefndir, rydyn ni'n ydefnyddio ein hymennydd i ddeall cymhellion ac yn cysgodi'r rhai bregus rhag perygl. Mae’n swydd lle rydych chi’n teimlo eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth i’r gymuned ac yn helpu i gadw pobl yn ddiogel. Dyna sy'n fy nghadw i fynd - mae'n rhoi boddhad mawr.
C. Rydych chi wedi cael ychydig o rolau gwahanol yn yr heddlu – a ydych chi’n credu bod cyfleoedd da ar gyfer dilyniant gyrfa?
Yasser: Mae cymaint o rolau heriol a diddorol o fewn yr heddlu, fe allech chi weithio eich gyrfa lawn a dal heb fod wedi gweithio ym mhob swyddogaeth. Cyn belled â bod gennych yr egni, bydd y sefydliad yn cefnogi'ch anghenion ac yn eich helpu i gyflawni'ch uchelgais.
C. Ydych chi'n teimlo bod eich hil yn bwysig yn eich rôl?
Yasser: Rwy'n gweld fy hil fel agwedd gadarnhaol sy'n gwella fy effaith bersonol. Mae'r ffaith fy mod i'n gallu siarad Wrdw a Phwnjabeg er enghraifft yn ased sy'n fy helpu i feithrin cydberthynas ac ymddiriedaeth.
C. Ydych chi'n credu ei bod hi'n bwysig cael cymorth teulu os ydych chi'n ystyried ymuno â'r heddlu?
Yasser: Mae’n gallu bod yn anodd os nad yw’ch teulu a’ch ffrindiau yn gefnogol i’ch llwybr gyrfa dewisol, ond yr hyn dw i wedi’i ddarganfod yw wrth i’ch teulu ddysgu am y rôl bwysig rydych chi’n ei chwarae mewn cymdeithas a’r gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud, mae’n debygol iawn y bydd eu barn yn newid.
C. Sut ydych chi'n credu bod eich cymuned ehangach yn ystyried plismona?
Yasser: Mae gennym dipyn o ffordd i fynd eto i newid rhai o’r canfyddiadau negyddol. Mae llawer o bobl yn cyfeirio at hiliaeth a gwahaniaethu fel pryderon ac mae eraill yn poeni am ddiffyg canfyddedig o ran dilyniant gyrfa. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth y bobl hyn yw peidiwch â chredu'r hyn rydych chi'n ei glywed bob amser. Rydw i wedi helpu i addysgu fy nghydweithwyr am fy niwylliant a chrefydd ac wedi dysgu am eu diwylliant nhw. Bod yn rhan weithredol o weithlu amrywiol yw’r unig ffordd i chwalu’r rhwystrau sy’n bodoli mewn cymdeithas, mae hynny'n wir mewn unrhyw weithle, gan gynnwys yr heddlu.
C. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn ymuno â'r heddlu?
Yasser: Ewch amdani, peidiwch â gadael i unrhyw beth eich dal yn ôl.
Wrthi'n cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu
Dim ond un o'r ffyrdd tydym yn gweithio'n galed i recriwtio swyddogion heddlu o ystod eang o gefndiroedd yw timau Gweithredu Cadarnhaol ymroddedig fel yr un y mae Yasser yn gweithio ynddo. Dysgu rhagor am sut rydym yn creu gwasanaeth heddlu amrywiol a chynhwysol.