Cynghorydd Tactegol Atal Troseddu
Mae'n rhaid i bob recriwt heddlu gwblhau cyfnod prawf o 2 flynedd ar y rheng flaen. Ond ar ôl eich cyfnod prawf, mae amrywiaeth enfawr o wahanol swyddi y gallech symud ymlaen iddynt, gan gynnwys rôl fel Cynghorydd Tactegol Atal Troseddu.
Pwrpas y rôl
Fel Cynghorydd Tactegol Atal Troseddau, eich rôl yw helpu i gyflwyno mentrau atal troseddu effeithiol. Trwy ddatrys problemau'n strwythuredig, byddwch yn helpu i gyflawni amcanion allweddol yr heddlu o leihau troseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dyma ychydig mwy am yr hyn y mae bod yn Gynghorydd Tactegol Atal Troseddu yn ei olygu:
- Er mwyn cefnogi datblygu a chyflwyno mentrau atal troseddu, byddwch yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i berchnogion cynlluniau lleihau troseddu. Byddwch yn eu cynorthwyo a'u harwain wrth gymhwyso Sganio, Asesu, Ymateb a Gwerthuso (SARA) ac offer datrys problemau cysylltiedig.
- Byddwch yn cynnal ymchwil yng nghamau Sganio, Dadansoddi ac Ymchwil SARA, gan ddarparu gwybodaeth i alluogi perchnogion cynlluniau lleihau troseddu i nodi a blaenoriaethu materion, nodi achosion sylfaenol, a datblygu ymyriadau priodol.
- Byddwch yn darparu data i feintioli buddion gweithgareddau lleihau troseddu a llywio adroddiadau heddlu ar berfformiad yn ôl ei Ddangosyddion Perfformiad Allweddol.
- Byddwch yn cynrychioli’r heddlu mewn cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau allanol i gyflwyno ac egluro mentrau atal troseddu perthnasol. Bydd disgwyl i chi hefyd nodi gwybodaeth gan sefydliadau eraill a allai gyfrannu at effeithiolrwydd lluoedd wrth atal troseddu.
- Byddwch yn cynnal cyflwyniadau a hyfforddiant o fewn y llu i godi ymwybyddiaeth o offer datrys problemau, prosesau atal troseddu a gwersi a ddysgwyd; i hyrwyddo arferion gorau.
- Byddwch yn gyfrifol am gysylltu â chydweithwyr o fewn y llu a thu hwnt i rannu gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.
Mae Cynghorydd Tactegol Atal Troseddu yn un ffordd yn unig y gallai eich gyrfa heddlu fynd â chi. Archwilio rolau erailly gallech symud ymlaen iddynt.