Swyddog Pêl-droed Penodedig

Mae pob recriwt heddlu yn cwblhau cyfnod prawf o ddwy neu dair blynedd fel Cwnstabl Heddlu cyffredinol. Mae hyn yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich gyrfa. Oddi yno, bydd gennych yr opsiwn i symud i amrywiaeth enfawr o rolau, gan gynnwys swyddi arbenigol fel Swyddog Pêl-droed Penodedig (DFO).

Pwrpas y rôl

Fel DFO, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw pobl yn ddiogel mewn gemau pêl-droed a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais a throseddoldeb. Dyma ychydig mwy am yr hyn y mae bod yn DFO yn ei olygu:

  • Byddwch yn paratoi gwybodaeth, yn datblygu strategaethau ac yn cynhyrchu trefniadau logistaidd ar gyfer plismona digwyddiadau pêl-droed.
  • Byddwch yn dod â’ch llu, y clwb pêl-droed a’ch cefnogwyr ynghyd er mwyn cadw pobl yn ddiogel mewn gemau pêl-droed.
  • Byddwch yn cael eich lleoli mewn gemau pêl-droed i arsylwi a goruchwylio mesurau diogelwch y clwb ei hun.
  • Byddwch yn cydlynu gwylwyr pêl-droed cudd (sy'n gweithredu fel cyswllt rhwng yr heddlu a chymuned cefnogwyr y clwb), gan gynnwys eu briffio a chasglu gwybodaeth ganddynt.
  • Byddwch yn ymgysylltu â chefnogwyr pêl-droed mewn gemau, cyfarfodydd grŵp cefnogwyr a thrwy gyfryngau cymdeithasol. 
  • Byddwch yn casglu tystiolaeth yn ymwneud â gweithredoedd troseddol ac i gefnogi euogfarnau a Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed
  • Fel DFO, bydd angen profiad o weithrediadau pêl-droed ac ymddygiad cefnogwyr, gan gynnwys gwybodaeth fanwl am eich clwb pêl-droed, stadiwm a chefnogwyr penodedig. 

Mae hefyd yn bwysig iawn cael dealltwriaeth gadarn o reoli cudd-wybodaeth a phlismona cudd. Ac wrth gwrs bydd angen sgiliau cyfathrebu gwych arnoch chi a’r gallu i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl – weithiau mewn sefyllfaoedd ymfflamychol. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau y byddwch yn gallu eu hogi yn ystod eich cyfnod prawf fel Cwnstabl Heddlu. 

Gall DFO llwyddiannus fynd ymlaen i fod yn arweinydd plismona pêl-droed o fewn ei lu neu gymryd rôl uwch mewn trefn gyhoeddus a diogelwch y cyhoedd, felly mae digon o le i'ch gyrfa symud ymlaen.

Mae plismona pêl-droed yn un ffordd yn unig y gallai eich gyrfa y yr heddlu fynd â chi ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf. Dysgu rhagor am ddilyniant gyrfa.

29

o 43

Llu heddlu yn recriwtio ar hyn o bryd

Ble gallaf i weithio?