Hyfforddiant

Mae bod yn swyddog heddlu yn rhoi boddhad ac yn heriol - weithiau bydd angen i chi weithredu y tu allan i'ch parth cysurus a delio â sefyllfaoedd anodd neu gymhleth. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi allu meddwl ar eich traed a gweithio'n dda gyda chydweithwyr fel rhan o dîm effeithiol. Bydd angen sgiliau pobl gwych arnoch hefyd, gan aros yn ddigynnwrf ac yn amyneddgar gydag aelodau’r cyhoedd, yn enwedig mewn sefyllfaoedd ingol neu gyfnewidiol.

Yr hyfforddiant y byddwch yn ei dderbyn

I’ch galluogi i wneud eich swydd yn ddiogel ac yn effeithiol, byddwch yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf (yn yr ystafell ddosbarth ac yn y swydd) a mentora, a fydd yn eich gweld yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i allu:

  • Defnyddio sgiliau ymchwiliol a chudd-wybodaeth i ddatrys troseddau
  • Delio â materion diogelwch yn y gymuned
  • Sicrhau trefn gyhoeddus a diogelwch wrth gefnogi gweithrediadau mawr yr heddlu
  • Datblygu dealltwriaeth o dechnolegau newydd
  • Cyflawni amcanion plismona cenedlaethol ar lefel gymunedol

Er bod pob llu'n rheoli ei raglen hyfforddi ei hun, fel arfer bydd gennych gymysgedd o:

  • Tua 18 – 22 wythnos o hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth – byddwch chi’n dysgu llawer am wahanol agweddau ar blismona, y gyfraith a gweithdrefnau ond peidiwch â phoeni, yn bendant ni fydd yn ddiflas! Fel arfer caiff ei rannu gan sesiynau chwarae rôl a sesiynau ymarferol. 
  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf a diogelwch personol.
  • Byddwch hefyd yn dilyn cwrs gyrru i roi'r sgiliau ar-y-ffordd sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd. 
  • Yna byddwch fel arfer yn cael eich neilltuo i diwtor ac yn treulio tua thri mis fel rhan o rota ymateb, gan ddatblygu'ch sgiliau a’ch profiad yn y gwaith, o gymryd datganiadau i sefyllfaoedd llawn tyndra a gwneud eich arestiad cyntaf. 

Ac ar bob cam, byddwch yn cael llawer o gefnogaeth gan eich tiwtoriaid a’r cydweithwyr profiadol y byddwch yn cael eich neilltuo i weithio gyda nhw. Darganfyddwch sut mae Tanya wedi symud ymlaen yn ei gyrfa gyda chefnogaeth ei chydweithwyr a'i mentoriaid - gwyliwch y ffilm.

Pwy all ymuno?

Mae sawl ffordd o ymuno â’r heddlu, yn dibynnu ar eich gwaith, eich bywyd a’ch profiad addysgol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant a phrofiad ac nid oes angen gradd arnoch i wneud cais.

Ffordd i faes plismona