Hyfforddiant diogelwch personol
Mae’n naturiol poeni am ddiogelwch pan ydych chi’n ystyried ymuno â gwasanaeth yr heddlu. Ond mae cadw ein swyddogion yn ddiogel yn hollbwysig i ni, a dyna pam mae hyfforddiant diogelwch personol yn rhan allweddol o’r hyfforddiant y byddwch yn ei dderbyn. Addysgir y sgiliau sydd eu hangen arnoch i asesu sefyllfaoedd yn gyflym a sicrhau eich bod yn ymateb yn briodol ac yn ddiogel.
Mae hyfforddiant diogelwch personol fel arfer yn gwrs 5 diwrnod, sy'n cynnwys:
Tawelu sefyllfaoedd
Byddwch yn cael eich hyfforddi ar sut i wrando a chyfathrebu i geisio datrys problemau heb ddefnyddio grym.
Hunan-amddiffyn
Byddwch yn dysgu sgiliau hunan-amddiffyn heb arfau, gan gynnwys technegau atal.
Defnyddio gefynnau
Dangosir defnydd cyfreithlon a chymesur o gefynnau i chi.
Defnyddio baton a chwistrell
Byddwch yn cael eich hyfforddi ar sut i ddefnyddio'ch baton a chwistrell llidiog mewn ffordd gyfreithlon a chymesur.
Defnyddio ataliadau aelodau
Byddwch yn cael eich hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r rhain i gyfyngu ar symudiad rhywun fel y gallwch atal neu leihau niwed i bawb dan sylw.
Barn Ellie ar hyfforddiant diogelwch
Gwyliwch Ellie, recriwt newydd gyda Heddlu Caint, yn siarad am sut mae ei hyder wrth drin sefyllfaoedd anodd wedi cynyddu trwy'r hyfforddiant diogelwch personol y mae hi wedi'i dderbyn.
Barod i wneud cais?
Os ydych chi'n credu eich bod chi'n barod i ymuno, gwelwch pa luoedd sy'n recriwtio nawr.
Gweld pwy sy'n recriwtio