Deiliad gradd plismona proffesiynol
Mae llawer o lwybrau gwahanol i yrfa ym maes plismona. I rai pobl, mae'n well ganddynt astudio'n llawn amser ar gyfer y radd mewn Plismona Proffesiynol cyn gwneud cais i'r llu o'u dewis. Mae hyn yn gadael iddynt ganolbwyntio ar gyflawni'r canlyniad gradd gorau y gallant, heb orfod gweithio'n llawn amser wrth iddynt ddysgu.
Dros y cwrs tair blynedd, mae myfyrwyr yn ennill y wybodaeth a'r theori academaidd y tu ôl i blismona proffesiynol. Unwaith y byddant wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallant wedyn wneud cais i ymuno â’r llu o’u dewis fel swyddog heddlu newydd, gan roi’r theori y maent wedi’i dysgu ar waith.
Mae rhai lluoedd yn cynnig llwybrau mynediad yn benodol ar gyfer pobl sydd eisoes wedi cwblhau neu a fydd cyn bo hir yn cwblhau’r Radd drwyddedig mewn Plismona Proffesiynol o un o’r prifysgolion hyn. Os yw hyn yn swnio fel chi, ewch i’n tudalen ‘Pwy sy’n recriwtio’ i chwilio am luoedd sy’n cynnig y llwybr mynediad hwn.
Os nad ydych eisoes yn gyfarwydd â’r Radd mewn Plismona Proffesiynol, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Coleg Plismona. Ond cofiwch, nid yw cyflawni'r Radd mewn Plismona Proffesiynol yn llwyddiannus yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig rôl cwnstabl heddlu prawf gan eich llu dewisol, gan fod gan bob llu ei ofynion mynediad, proses recriwtio a pholisi dethol ei hun.