Llwybr mynediad prentisiaeth (PCDA)
Nid oes angen gradd arnoch i ymuno â'r heddlu. Mae llawer o luoedd yn cynnig llwybr mynediad Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid Heddlu (PCDA) sy’n gymysgedd o ddysgu ymarferol dynamig yn y gwaith ochr yn ochr â theori a dysgu academaidd yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch chi'n swyddog heddlu o'ch diwrnod cyntaf yn y swydd er mwyn i chi allu ennill arian wrth ddysgu. Mae llwybr PCDA fel arfer yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau, gyda'r opsiwn i arbenigo yn eich trydedd flwyddyn.
Meini Prawf Mynediad
Bydd angen cymhwyster Lefel 3 arnoch (sef dwy lefel A neu gyfwerth) mewn o leiaf dau bwnc NEU byddwch yn gallu dangos profiad neu hyfforddiant perthnasol y gellir ei ystyried yn gyfwerth â chymhwyster Lefel 3 i wneud cais drwy'r llwybr hwn. Bydd profiad a hyfforddiant perthnasol yn cael eu hystyried fesul achos - siaradwch â'ch llu dewisol am y profiad a'r hyfforddiant sydd gennych. Dylen nhw allu cadarnhau a yw'n cyfateb i gymhwyster Lefel 3.
Trosolwg o'r hyfforddiant PCDA
Mae'r hyfforddiant PCDA yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol ac wedi'i gynllunio'n benodol i'ch paratoi ar gyfer plismona. Bydd elfen o astudio yn yr ystafell ddosbarth (gyda phrifysgol bartner) drwy gydol y cyfnod a fydd yn helpu i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn swyddog heddlu.
Fodd bynnag, byddwch yn cael eich cyflogi fel swyddog heddlu o’r diwrnod cyntaf a byddwch yn treulio’r mwyafrif helaeth o’ch amser ar y rheng flaen gyda swyddogion profiadol.
Drwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn ymgymryd â nifer o leoliadau gweithredol gan gynnwys:
- Ymateb - mae hyn yn golygu ymateb i alwadau brys gan y cyhoedd a mynd allan i leoliad y digwyddiad
- Plismona yn y gymdogaeth - mae hyn yn golygu gweithio gyda thîm plismona yn y gymdogaeth (NPT). Fel arfer, tîm bach o swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ydynt (3-10 fel arfer) sy'n ymroddedig i blismona cymuned neu ardal benodol.
- Ymchwiliadau - defnyddio'r holl offer sydd ar gael i chi yn y swyddfa ac allan yn y gymuned.
Byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o’r ffordd gyda hyfforddiant a thiwtora, a byddwch yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion profiadol drwy’r amser. Bydd tiwtor cwnstabl yn cael ei benodi i chi a fydd yn olrhain eich cynnydd wrth i chi gyfnewid rhwng cyfnodau o astudio a gweithio ar y rheng flaen, gan roi theori ar waith gyda chymorth swyddogion a staff.
Ac ar ddiwedd tair blynedd, byddwch yn ennill Gradd Lefel 6 mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Yn wahanol i wneud cais i astudio’n llawn amser ar gyfer y Radd Cyn-ymuno mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol yn y brifysgol (y mae’n rhaid i chi ei hariannu eich hun), bydd y llu o’ch dewis yn ariannu'ch gradd yn llawn a byddwch hefyd yn derbyn cyflog cystadleuol trwy gydol y rhaglen PCDA.
Gwrandewch ar swyddogion PCDA
Mae tri swyddog prentisiaeth gradd cwnstabl heddlu yn Heddlu Swydd Nottingham – un o’r lluoedd cyntaf i gyflwyno’r llwybr mynediad hwn – yn dweud wrthym sut y gwnaeth y PCDA eu helpu i ddatblygu eu haddysg wrth weithio yn y llu a chael ystod o brofiad.
- How getting a degree while you work as a PC is a 'perfect opportunity'
- How the police constable degree apprenticeship equips you for the future
- Being a police officer from your first day on the job with the PCDA
Mae llawer o luoedd yn recriwtio swyddogion fel hyn ar hyn o bryd - gwiriwch a yw'r llu o'ch dewis yn cynnig llwybr mynediad PCDA.