Mynediad deiliaid gradd detectif

Mae'r rhaglen ddwy flynedd hon hefyd yn eich galluogi i gyflawni Lefel 6 - Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol ond, fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae'r dysgu yn gogwyddo tuag at bersbectif ymchwiliol.

Mae'n rhaglen ddwysach na'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd (DHEP), gan fod angen i chi hefyd gwblhau'r Arholiad Ymchwilwyr Cenedlaethol yn llwyddiannus a bodloni meini prawf asesu PIP2 er mwyn dod yn dditectif achrededig Lefel 2 Rhaglen Ymchwilio Proffesiynoli (PIP2). 

Mae rhai lluoedd yn cynnig 'Llwybrau Ditectif Llwybr Carlam' lle mae ymgeiswyr yn treulio cyfnod o amser mewn iwnifform cyn iddynt ddechrau ar eu llwybr ymchwilio. Mae lluoedd eraill yn cynnig 'Llwybr Ditectif Mynediad Uniongyrchol' lle mae ymgeiswyr yn dechrau mewn rôl ymchwilio.

Siaradwch â'r llu rydych chi'n bwriadu gwneud cais iddo'n uniongyrchol i ddarganfod beth sydd ar gael.

29

o 43

Llu heddlu yn recriwtio ar hyn o bryd

Ble gallaf i weithio?