Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu

CPA logo
CPA logo

Wedi'i sefydlu ym 1883, mae gan Gymdeithas Gristnogol yr Heddlu (CPA) dros 4,000 o aelodau. Ein nod yw cefnogi Cristnogion yng ngwasanaeth yr heddlu a darparu cyswllt rhwng yr heddlu a’r gymuned Gristnogol.

Cymorth a ddarparwn

Fel elusen genedlaethol, mae CPA yn arwain ar bob mater sy'n berthnasol i Gristnogion ym maes plismona. Rydym yn cynnig:

  • Cyngor ad-hoc i'r rhai o gefndir Cristnogol sy'n ystyried gyrfa ym maes plismona
     
  • Cymorth i swyddogion a staff Cristnogol yr heddlu
     
  • Ymgysylltu rhwng yr heddlu a chymunedau Cristnogol
  • Cyfle i gysylltu â Christnogion o fewn y gwasanaeth heddlu ar draws y DU ac yn rhyngwladol

Gwrandewch ar Lee, cyn Gyfarwyddwr Gweithredol y CPA, yn siarad mwy am waith y CPA.

CPA team.

Cwestiynau a allai fod gennych

Mae’n naturiol cael cwestiynau os ydych chi’n ystyried dod yn swyddog heddlu. Mae'r CPA yma i sicrhau y bydd eich ffydd bob amser yn cael ei barchu o fewn eich rôl. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

A fyddaf yn gallu ymarfer fy nghrefydd tra ar ddyletswydd?

Mae gwasanaeth yr heddlu wedi ymrwymo i greu gweithlu amrywiol a darparu ar gyfer anghenion yr holl swyddogion, er bod natur ‘ar alwad’ plismona yn golygu y bydd angen i chi fod yn hyblyg weithiau.

A fydd rhaid i mi weithio ar ddyddiau Sul?

Mae rhestrau dyletswyddau lleol a chynllunio eich gwyliau blynyddol ymlaen llaw yn golygu, lle bo modd, y gall eich llu wneud addasiadau er mwyn i chi allu ymarfer eich ffydd. Fodd bynnag, mae'n annhebygol na fydd rhaid i chi byth weithio ar ddydd Sul.

A fyddaf yn cael fy nerbyn fel Cristion yng ngwasanaeth yr heddlu?

Byddwch, mae gwasanaeth yr heddlu'n croesawu pobl o bob cefndir ac yn annog swyddogion i ddod â'u personoliaeth a'u ffydd eu hunain i'w rôl, tra'n amddiffyn y cyhoedd mewn ffordd ddiduedd.

Nid yw fy nheulu a ffrindiau'n ystyried bod yn swyddog heddlu yn broffesiwn parchus. A oes dilyniant gyrfa yn yr heddlu?

Gall gyrfa ym maes plismona fod yn heriol yn broffesiynol ac yn ddeallusol. Ar ôl i chi orffen eich cyfnod prawf dwy flynedd, mae llawer o rolau y gallwch arbenigo ynddynt yn ogystal â chyfleoedd i symud ymlaen trwy'r rhengoedd. Mae plismona'n gyfle i wasanaethu'ch cymuned, cefnogi'r rhai sy'n agored i niwed a gwneud gwahaniaeth, gan wneud eich ffrindiau a'ch teulu yn falch.

Pa gymorth sydd ar gael os byddaf yn profi gwahaniaethu?

Nid yw gwasanaeth yr heddlu yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ei holl swyddogion. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn. Os yw swyddog Cristnogol yn profi gwahaniaethu, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

Transcript coming soon

Image description
Inspector Marie Reavey smiling to camera

Cadw mewn cysylltiad

I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:

Dilynwch ni ar:

Camau cadarnhaol

Mae nifer o heddluoedd hefyd yn cynnig mentrau cadarnhaol (fel sesiynau ymgysylltu ar-lein neu fentora) yn arbennig er mwyn cefnogi pobl o grwpiau tan-gynrychioledig i ymgeisio. Felly mae’n werth cymryd golwg ar wefan yr heddlu y bwriadwch ymuno a hi, i weld pa gynlluniau a mentrau gweithredu cadarnhaol maen nhw’n eu rhedeg cyn i chi ymgeisio.

Barod i ymgeisio?

Mae lluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd.

Gweld pa luoedd sy'n recriwtio