Sefydliadau cymorth
Cefnogir yr ymgyrch hon gan nifer o sefydliadau, pob un yn gweithio i sicrhau bod ein heddluoedd yn cynrychioli ein cymunedau. Os ydych yn ystyried gyrfa mewn plismona ac eisiau gwybod rhagor am yr hyn sy’n cael ei wneud i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, gallwch gysylltu â’r sefydliad cymorth perthnasol o’r rhestr isod:

Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Ddu
Wrthi'n hyrwyddo cysylltiadau hil da a chydraddoldeb o fewn heddluoedd y DU a’r gymuned ehangach.

Cymdeithas genedlaethol yr heddlu mwslimaidd
Wrthi'n hyrwyddo cydraddoldeb o fewn plismona yn y DU ar gyfer swyddogion a staff Moslimaidd.

Cymdeithas iddewig yr heddlu
Wrthi'n darparu rhwydwaith o gymorth i swyddogion a staff heddlu Iddewig ac yn hyrwyddo dealltwriaeth o’r ffydd Iddewig o fewn heddluoedd y DU.

Cymdeithas brydeinig i ferched mewn plismona
Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion sy'n effeithio ar fenywod mewn plismona. Yn datblygu rhwydwaith o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr presennol a rhai sydd wedi ymddeol a chyfrannu at ddatblygiad proffesiynol yr aelodau.

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yr Heddlu
Wrthi'n hyrwyddo niwroamrywiaeth ym maes plismona yn y DU.

Cymdeithas sipsiwn roma a theithwyr yr heddlu
Wrthi'n uno a chefnogi swyddogion heddlu a staff o gefndir Sipsiwn Roma Teithwyr.

Cymdeithas Genedlaethol Yr Heddlu Sicaidd
Cymdeithas genedlaethol sy'n cynrychioli swyddogion heddlu a staff Sicaidd ledled y DU.

Cymdeithas paganiaid yr heddlu
Sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi swyddogion a staff Paganaidd yr heddlu. Wrthi'n cydweithio i wella'r berthynas rhwng y gymuned Baganaidd a'r heddlu.

Rhwydwaith LGBT+ Cenedlaethol yr Heddlu
Wrthi'n helpu i greu gwasanaeth heddlu sy’n adlewyrchu ein cymunedau amrywiol. Wrthi'n hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i bob cydweithiwr LGBT+.

Cymdeithas Yr Heddlu Anabl
Y corff cenedlaethol sy'n cynrychioli rhwydweithiau cymorth anabledd yn heddluoedd y DU, gan hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl.

Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu
Wrthi'n annog a chefnogi Cristnogion o fewn heddluoedd y DU.
Camau cadarnhaol
Mae nifer o heddluoedd hefyd yn cynnig mentrau cadarnhaol (fel sesiynau ymgysylltu ar-lein neu fentora) yn arbennig er mwyn cefnogi pobl o grwpiau tan-gynrychioledig i ymgeisio. Felly mae’n werth cymryd golwg ar wefan yr heddlu y bwriadwch ymuno a hi, i weld pa gynlluniau a mentrau gweithredu cadarnhaol maen nhw’n eu rhedeg cyn i chi ymgeisio.
Ydw i'n gymwys i ymuno?
Cyn i chi benderfynu gwneud cais, mae'n werth gwirio'r meini prawf cymhwyster sylfaenol y mae angen i chi eu bodloni. Dylech hefyd wirio gwefan eich llu dewisol i gael rhestr gyfredol lawn o'u meini prawf lleol.
GWIRIAD CYMHWYSTER SYLFAENOL