I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:
- ewch i’n gwefan
- E-bost: andrew.pardy@herts.pnn.police.uk
Wedi'i sefydlu yn 2009, mae Cymdeithas Paganiaid yr Heddlu (PPA) yn sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi swyddogion a staff heddlu Paganaidd. Gydag aelodau ym mron pob heddlu yn y DU, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r berthynas rhwng cymunedau Paganaidd a gwasanaeth yr heddlu.
Mae'r PPA yn gweithio i hysbysu ac addysgu pobl am Baganiaeth fodern. Yn ogystal â chynrychioli Paganiaid o fewn gwasanaeth yr heddlu, rydym yn:
Mae’n naturiol cael cwestiynau os ydych chi’n ystyried dod yn swyddog heddlu. Mae'r PPA yma i sicrhau y bydd eich credau bob amser yn cael eu parchu o fewn eich rôl. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.
Yn bendant. Mae gwasanaeth yr heddlu'n croesawu pobl o bob cefndir, diwylliant a chymuned er mwyn i ni allu cynrychioli'r bobl rydym yn eu gwasanaethu'n llawn. Fel swyddog heddlu, mae gennych gyfle i fod yn ‘llais newid’. Trwy helpu eraill i ddeall pobl o'ch cymuned, gallwch chi helpu i newid agweddau er gwell.
Nid yw gwasanaeth yr heddlu'n derbyn unrhyw fath o wahaniaethu ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ei holl swyddogion. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn Mae gennym hefyd rwydwaith o swyddogion Pwynt Cyswllt Cyntaf ledled y DU y gallwch gysylltu â nhw i gael cymorth.
Mae rhestrau dyletswyddau lleol a chynllunio gwyliau blynyddol ymlaen llaw yn golygu, lle bo modd, y gall eich llu wneud addasiadau i chi ymarfer eich ffydd. Mae rhai Swyddogion Paganaidd yn gwneud cais i gyflenwi am ddyddiadau safonol Gŵyl y Banc fel y Nadolig er mwyn iddynt gael amser i ffwrdd i ddathlu Samhain neu Yule.
Mae gan lawer o'r lluoedd mwyaf ystafelloedd gweddïo i swyddogion eu defnyddio a bydd lluoedd llai bob amser yn fodlon gwneud trefniadau er mwyn i chi allu ymarfer eich crefydd.
I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:
Mae lluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd.
Gweld pa luoedd sy'n recriwtio