Cymdeithas Yr Heddlu Anabl

Disabled Police Association logo
Disabled Police Association logo

Wedi’i sefydlu yn 2012, mae Cymdeithas yr Heddlu Anabl (DPA) yn cynrychioli rhwydweithiau cymorth anabledd o heddluoedd ledled y DU. Ein nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl sy'n gweithio o fewn yr heddlu a theulu estynedig yr heddlu. Rydym yn gweithio’n arbennig o galed i sicrhau mai gallu swyddogion anabl sy’n cael ei gydnabod, yn hytrach na’u cyfyngiadau.

Cymorth a ddarparwn

Fel pwynt cyswllt ar gyfer pob math o rwydweithiau anabledd o fewn yr heddlu, rydym yn cefnogi swyddogion heddlu presennol a phosibl drwy gydol eu gyrfa. Mae’r math o gymorth a gynigiwn yn cynnwys:

  • Cydgysylltu â chyflogwyr i sicrhau bod swyddogion a staff anabl, wedi'u hanafu neu sâl yn cael eu trin yn deg
     
  • Mynediad i ddiweddariadau a newyddion rheolaidd yn ymwneud ag anabledd a lles
     
  • Gweithio i wella'r berthynas rhwng gwasanaeth yr heddlu a phobl anabl mewn cymdeithas
DPA AGM 2019.

Cwestiynau a allai fod gennych chi

Mae’n naturiol cael cwestiynau wrth gymryd unrhyw gamau newydd i ddod yn swyddog heddlu. Mae’r DPA yma i sicrhau y bydd eich anabledd bob amser yn cael ei barchu, a’ch gallu’n cael ei gydnabod, yn eich rôl fel swyddog heddlu. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

A fydd fy anabledd yn effeithio ar fy nghais a pha gymorth a ddarperir?

Na fydd. Mae’n debygol y gofynnir i chi ddarparu adroddiad gan eich meddyg teulu fel rhan o’r broses sgrinio meddygol a bydd gofyn i chi basio asesiad. Ond gellir gwneud addasiadau rhesymol i wneud y broses mor deg â phosibl i chi. Cysylltwch â’r heddlu penodol yr hoffech ymuno ag ef a byddan nhw’n gallu dweud mwy wrthych chi am y cymorth maen nhw’n ei gynnig.

A fyddaf yn addas ar gyfer gyrfa yn yr heddlu?

Gall gyrfa yn yr heddlu roi boddhad mawr ac mae llawer o agweddau ar blismona lle na fydd cyflwr neu anabledd yn eich dal yn ôl mewn unrhyw ffordd. Yn arbennig ar gyfer rhai rolau arbenigol ym maes plismona, gall fod yn fantais wirioneddol, gan fod gorfod rheoli eu cyflyrau yn golygu bod llawer o bobl ag anableddau yn dod yn ddatryswyr problemau medrus a dyfal. Fodd bynnag, nid yw at ddant pawb ac efallai nad yw agweddau ar y swydd yn addas i chi. Dewch i siarad â ni fel y gallwn helpu i ddarganfod y rôl iawn i chi. Neu gallwch siarad yn uniongyrchol â'ch llu i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael, gallai hyn gynnwys gwirfoddoli i ddysgu rhagor.

Pa gymorth sydd ar gael i'm helpu i basio'r prawf ffitrwydd?

Os yw anabledd neu gyflwr meddygol yn ei gwneud hi’n anodd i chi basio’r prawf ffitrwydd safonol (a elwir yn ‘brawf blîp’) mae rhai heddluoedd yn cynnig prawf amgen, lle mae ymgeiswyr yn cerdded neu’n rhedeg ar felin draed, gyda’r graddiant yn cynyddu dros amser. Os yw hyn yn berthnasol i chi, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'ch heddlu dewisol i drafod pa ddewisiadau eraill y gallant eu cynnig.

Pa gymorth sydd ar gael os byddaf yn profi gwahaniaethu?

Nid yw gwasanaeth yr heddlu yn derbyn unrhyw fath o wahaniaethu ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ei holl swyddogion. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn ac os yw swyddog anabl yn profi gwahaniaethu, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu.

Mae llawer o bobl yn amharod i rannu eu hanabledd rhag ofn y bydd yn effeithio'n negyddol ar eu cais. Beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn?

Mae'r heddlu yn croesawu pobl o bob cefndir. Mae llawer o swyddogion rhagorol ag anableddau sydd wedi symud ymlaen i swyddi uwch. Mae'r DPA yn parhau i weithio gyda'r gymuned blismona i chwalu canfyddiadau negyddol a mynd i'r afael â rhai o'r mythau sy'n ymwneud ag anabledd. A chofiwch, mae datgelu eich anabledd yn rhoi'r cyfle i'r heddlu o'ch dewis roi addasiadau rhesymol ar waith i chi. Archwiliwch stori Myles i weld sut y gwnaeth ei lu ei helpu i ymdopi â'i ddallineb lliw.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

Transcript coming soon

Image description
Myles standing next to police car, smiling to camera.

Cadw mewn cysylltiad

I gael gwybod rhagor neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau, ewch i'n gwefan.

Dilynwch ni ar:

Barod i wneud cais?

Mae lluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd.

Gweler pa luoedd sy'n recriwtio