Ymchwilydd Cam-drin Domestig
Os ydych yn ystyried ymuno â’r heddlu oherwydd eich bod am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a diogelu’r aelodau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, bydd y rôl hon yn rhoi llawer o foddhad i chi. Byddwch yn cael eich hyfforddi'n arbennig mewn dyletswyddau ymchwilio i nodi'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig a throseddau cysylltiedig.
Byddwch yn cefnogi dioddefwyr, gan gyflawni’r canlyniadau gorau iddyn nhw a’u teuluoedd. Yr hyn sy’n allweddol i’r rôl hon yw sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu diogelu a bod unrhyw dystiolaeth a geir yn cael ei chofnodi, ei diogelu a’i chadw mewn modd amserol a phriodol.
Dyma rai o agweddau eraill y rôl hon:
- Byddwch yn cyfweld â thystion, dioddefwyr a’r rhai dan amheuaeth ac yn casglu’r holl dystiolaeth ofynnol i gefnogi’r broses ymchwilio, yn y pen draw er mwyn dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
- Byddwch yn cwblhau asesiadau risg a darparu cefnogaeth briodol i ddioddefwyr yn ystod ymchwiliad
- Byddwch yn llunio cynllun diogelwch dioddefwyr i sicrhau eu diogelwch a’u lles ac yn darparu gwybodaeth fel y gallant gyrchu'r holl wasanaethau cymorth sydd ar gael
- Byddwch yn defnyddio pwerau dynodedig i arestio, dal a rhoi rhybuddion arbennig lle bo angen yn unol â deddfwriaeth a pholisi
- A gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, megis gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu rhwydweithiau i alluogi ymagwedd gydgysylltiedig ac ysgogi diogelu dioddefwyr
Mae'n mynd heb ddweud y bydd gennych sgiliau cyfathrebu da gyda’r gallu i wrando ar eraill a bydd angen gwybodaeth ymarferol dda arnoch am weithdrefnau amddiffyn plant ac amddiffyn oedolion sy’n wynebu risg. Ond peidiwch â phoeni, byddwch yn cael yr holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch i'ch helpu yn eich rôl.
Dyma un yn unig o'r rolau y gallwch symud ymlaen iddynt yn eich gyrfa gyda'r heddlu. Beth amarchwilio rolau arbenigol eraill?