Wrthi'n cynrychioli ein cymunedau
Rydym yn cydnabod bod angen i wasanaeth heddlu modern adlewyrchu’n llawn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, felly rydym yn gweithio’n galed i recriwtio swyddogion heddlu o ystod llawer ehangach ac amrywiol o bobl, yn unol â Gweledigaeth Plismona 2025 o heddlu mwy cynrychioliadol. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir, waeth beth fo'u hoedran, rhywedd, hil, ffydd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu berthynas.
Mae hynny oherwydd po fwyaf y mae ein swyddogion heddlu yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, y mwyaf y byddwn yn deall eu hanghenion a’u pryderon a gorau oll y byddwn yn cydweithio i wneud cymunedau’n fwy diogel a chryfach.
Sut rydym yn creu gwasanaeth heddlu amrywiol a chynhwysol
- Recriwtio a dethol teg - mae holl brosesau recriwtio'r heddlu yn deg ac yn seiliedig ar deilyngdod.
- Gweithredu Cadarnhaol - mae gan luoedd lleol amrywiaeth o fentrau ar y gweill i annog pobl o bob cefndir i wneud cais i ymuno â'r heddlu a chefnogi swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu. Edrychwch ar wefan y llu a ddewiswyd gennych i weld pa fentrau gweithredu cadarnhaol y maent yn eu cynnal.
- Ystyriaethau ffydd - mae heddluoedd yn gefnogol i bob crefydd, gan wneud addasiadau i roi amser a rhyddid i swyddogion ymarfer eu ffydd.
- Rhwydweithiau cymorth - mae llawer o gymdeithasau a sefydliadau cymorth yn bodoli i helpu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i wneud cais ac yna ffynnu ym maes plismona.
Cefnogi niwroamrywiaeth
Gwrandewch ar y swyddog sy'n gwasanaethu, Myles, yn siarad am ei brofiadau o fod yn lliwddall a'r cymorth a gafodd i'w helpu i wneud ei waith. Darganfod stori Myles.
Pwy all ymuno?
Mae sawl ffordd o ymuno â’r heddlu, yn dibynnu ar eich gwaith, eich bywyd a’ch profiad addysgol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant a phrofiad.
Ffyrdd i mewn i faes plismona