Beth sydd dan sylw â'r ffurflen gais?
Bydd angen i chi ofyn am ffurflen gais gan eich llu dewisol - fe welwch fanylion ar eu gwefan Fel arfer, bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi am:
- Eich manylion personol (megis enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad)
- Unrhyw euogfarnau
- Eich sefyllfa ariannol ac unrhyw fuddiannau busnes
- Unrhyw datŵs sydd gennych
Mae rhai lluoedd yn cynnwys rhai cwestiynau ynghylch cymhwysedd a / neu werthoedd yn eu ffurflen gais - dysgwch ragor am Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd y Coleg Plismonai'ch helpu i baratoi.
Mae lluoedd recriwtio am ddod i'ch adnabod chi, nid dim ond eich gwybodaeth bersonol. Os ydynt yn gofyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwysleisio'r rhinweddau cadarnhaol a'r sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu cyflwyno i'r rôl. Meddyliwch am eich cymhellion y tu ôl i wneud cais i'r llu rydych chi wedi'i ddewis a'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud i'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
I weld rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae llu yn chwilio amdano mewn swyddog heddlu a'u meini prawf cymhwysedd, edrychwch ar wefan y llu.
Yn ôl i: Sut i wneud cais
Read next: The sift
Or go back to: Get ready to apply