Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Ddu

Logo NBPA
Logo NBPA

Wedi'i sefydlu ym 1998, nod Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du (NBPA) yw hyrwyddo cysylltiadau hiliol da a chyfle cyfartal, o fewn gwasanaeth heddlu'r DU a'r gymuned ehangach. 

Cymorth a ddarparwn

Rydym yn gweithio gyda darpar swyddogion heddlu a swyddogion heddlu i'w helpu i symud ymlaen, a llwyddo, yn eu gyrfaoedd. Mae ein cymorth yn cynnwys:

  • Mae gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau cydraddoldeb hiliol wrth galon agenda'r heddlu
  • Aelodau staff o gefndiroedd ethnig amrywiol
  • Cynlluniau mentora

Prosiectau croestoriadol gan gynnwys Menywod mewn Plismona, LGBT+ a chred grefyddol

NBPA association at March of Unity.

Cwestiynau a allai fod gennych

Mae’n naturiol cael cwestiynau wrth gymryd unrhyw gam newydd. Mae'r NBPA yma i sicrhau y bydd eich hil bob amser yn cael ei barchu o fewn eich rôl fel swyddog heddlu. Cymerwch olwg trwy ein Cwestiynau Cyffredin isod.

A fydda i'n gallu datblygu fy ngyrfa?

Mae plismona'n rhoi cyfle gwych i chi ddatblygu a chael dyrchafiad. Ar ôl i chi orffen eich cyfnod prawf dwy neu dair blynedd, mae llawer o rolau y gallwch arbenigo ynddynt – dysgwch ragor am y cyfleoedd dilyniant gyrfa sydd ar gael i chi. Gallwch hefyd weld a ydych yn gymwys ar gyfer ein cynllun mentora, lle mae swyddogion profiadol yn rhannu eu gwybodaeth, eu mewnwelediad a’u profiad i helpu swyddogion i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Pa hyfforddiant diogelwch fydda i'n ei dderbyn?

Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae cadw ein swyddogion yn ddiogel yn bwysig iawn. Dyna pam y byddwch yn derbyn hyfforddiant diogelwch personol helaeth, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i asesu sefyllfaoedd yn gyflym, tawelu pethau lle bo modd ac ymateb mewn modd cymesur a diogel. Dysgu rhagor am hyfforddiant diogelwch personol.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn profi gwahaniaethu yn y gwaith?

Mae gwasanaeth yr heddlu wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd a lles ei holl swyddogion ac nid yw’n goddef unrhyw fath o wahaniaethu. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hamddiffyn ac os yw unrhyw swyddog o’n cymuned yn profi gwahaniaethu, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu.

Nid yw fy nheulu a ffrindiau yn meddwl bod yr heddlu yn gam da yn fy ngyrfa. Beth alla i ddweud wrthyn nhw?

Rydym yn deall y baich ychwanegol y gall gwisgo iwnifform heddlu ei achosi mewn rhai cymunedau. Mae ymuno â'r heddlu'n rhoi cyfle i chi wasanaethu'ch cymuned a chynyddu dealltwriaeth ddiwylliannol ein gweithlu. Bydd hyn yn helpu plismona i ddeall pob cymuned yn well a gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â throseddu.

Gweld trawsgrifiad llawn y fideo

Transcript coming soon

Image description
PC Jamie Kamoto looking straight to camera.

Cadw mewn cysylltiad

I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf, gallwch:

Fynd i: nationalbpa.com

E-bostio: rozila.khan@lancashire.pnn.police.uk

Dilyn ni ar:

Camau cadarnhaol

Mae nifer o heddluoedd hefyd yn cynnig mentrau cadarnhaol (fel sesiynau ymgysylltu ar-lein neu fentora) yn arbennig er mwyn cefnogi pobl o grwpiau tan-gynrychioledig i ymgeisio. Felly mae’n werth cymryd golwg ar wefan yr heddlu y bwriadwch ymuno a hi, i weld pa gynlluniau a mentrau gweithredu cadarnhaol maen nhw’n eu rhedeg cyn i chi ymgeisio.

Barod i wneud cais?

Mae lluoedd ledled Cymru a Lloegr yn recriwtio ar hyn o bryd. 

Gweld pa luoedd sy'n recriwtio